Un o Geredigion yw Casi yn wreiddiol. Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth, ac yn ystod ei chyfnod yno, cafodd ei bedyddio yn Eglwys Bethel y Bedyddwyr mewn oedfa gydenwadol. Ar ȏl ei hordeinio yn 1992, bu’n weinidog yng Ngofalaeth Dosbarth Llansawel, Sir Gaerfyrddin ac yn y Barri ym Mro Morgannwg. Ers symud i’r Gogledd, mae hi wedi gweithio fel Swyddog Iaith i Mudiad Ysgolion Meithrin yn ardal Bangor, fel Swyddog Plant, Ieuenctid a Theuluoedd ym Mȏn ac fel Swyddog Adnoddau a Chefnogi Eglwysi Gogledd Cymru gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae hi’n briod gyda Lloyd sy’n Ficer ar Ardal Gweinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai ac mae ganddynt ddau o feibion, Dafydd a Tomos. Daeth Casi yn Weinidog i Emaus ym Medi 2018.
Y mae Casi ar gael unrhyw bryd am sgwrs, ymweliad bugeiliol neu i drafod unrhyw fater yn ymwneud â gweinidogaeth yr Eglwys. Mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 01286 660666 neu 07984085267
Neu gallwch yrru neges ebost i gweinidog.emaus.bangor@gmail.com
Ysgrifennydd
Gareth Roberts
Yn hanu o Dreffynnon, Sir y Fflint ac yn briod â Menna. Mae ganddynt ddau o blant - Huw a Llinos. Cyn ymddeol dilynodd yrfa ym maes addysg uwch ac mewn llywodraeth leol gan arbenigo mewn addysg mathemateg. Wedi ymddeol mae’n ceisio poblogeiddio mathemateg mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Pendref yn 2011, ac Eglwys Emaus yn 2017.
Mae croeso i chi gysylltu gyda Gareth drwy anfon neges ebost at: ysgrifennydd.emaus.bangor@gmail.bangor
Pwy Di Pwy
Gweinidog
Y Parchedig Casi M Jones
Emaus Bangor