Ers blynyddoedd bellach bu Penuel yn cefnogi gwaith Traidcraft. Erbyn hyn Catrin Evans yw cynrychiolydd Traidcraft yn y cylch.

Cynhelir
Bore Coffi
ar y Sadwrn cyntaf o bob mis 10.00-12.00.
Y mae cyfle i gael sgwrs a phrynu nwyddau amrywiol Traidcraft.

Coffi, Te, Bwydydd. Dillad a chrefftau.

Traidcraft

Mynnwch fasnachu’n deg!

Ddechrau mis Mawrth cynhaliwyd bore coffi llwyddiannus iawn fel rhan o bythefnos dathlu masnach deg.

Yng nghwmni Jean Forsyth, Maer Bangor, trefnwyd cystadleuaeth goginio gan ddefnyddio nwyddau masnach deg. Enillydd y gystadleuaeth oedd Angie Roberts. Llongyfarchiadau iddi hi ac i bawb a lwyddodd i baratoi danteithion hynod o flasus.

Jennie Pye, Angie Roberts, Jean Forsyth (Maer Bangor), Dilwen Jones
Map Safle
Emaus Bangor
DIGWYDDIADUR